Lleoliad:
Fideo gynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Ionawr 2021
Amser:
13.30 -
16.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11149
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Neil Hamilton AS Jenny Rathbone AS Rhianon Passmore AS (yn lle Joyce Watson AS) |
Tystion: |
Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Dean Medcraft, Llywodraeth Cymru Tim Render, Llywodraeth Cymru Jackie Price, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Elizabeth Wilkinson (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS. Dirprwyodd Rhianon Passmore AS ar ei rhan.
1.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.4 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22
2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22.
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22
3.1 Parhaodd y Pwyllgor i graffu ar waith Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch trefniadau dros dro ar gyfer llywodraethu amgylcheddol
4.2 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd ynghylch trefniadau dros dro ar gyfer llywodraethu amgylcheddol
4.3 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil yr Amgylchedd
4.4 Gohebiaeth rhwng Pwyllgor yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir Senedd yr Alban a’r Cadeirydd ynghylch y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU
4.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Sylweddau Peryglus (Cynllunio)
4.6 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Tŷ’r Cyffredin at y Gweinidog Gwladol dros Dai ynghylch y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Sylweddau Peryglus (Cynllunio)
4.7 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Bil Amaethyddiaeth y DU – Trydydd darlleniad
4.8 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU
4.9 Gohebiaeth ychwanegol rhwng y Cadeirydd a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cymalau Enghreifftiol ar gyfer Cyfarpar Sefydlog) (Cymru) 2019
4.10Gohebiaeth gan Undeb Amaethwyr Cymru ynghylch Adolygiad o Wariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig
4.11Gohebiaeth mewn perthynas â'r anghydfod sy'n parhau i fynd rhagddo rhwng Nwy Prydain ac Undeb y GMB
4.12Gohebiaeth gan Centrica (Nwy Prydain) ynghylch trafodaethau gydag Undeb y GMB
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau craffu.
7 Sesiwn friffio gyfreithiol a thrafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch Bil Amgylchedd y DU
7.1 Cafodd yr Aelodau friff cyfreithiol a thrafodwyd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch Bil Amgylchedd y DU.
8 Trafod llythyr drafft ynghylch y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Sylweddau Peryglus (Cynllunio)
8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft ynghylch y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Sylweddau Peryglus (Cynllunio), a chytunodd arno.